Mei Gwynedd - Glas

Mei Gwynedd - Glas

£11.99
Cod Eitem : meiglas

Label: Recordiau JigCal Records
Dyddiad rhyddhau: 29/6/18

 

Mae Mei yn enw cyfarwydd i bawb sy’n dilyn y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes – yn gitarydd i Beganifs a Big Leaves, yn brif ganwr a gitarydd Sibrydion, ac yn aelod o Endaf Gremlin. Mae hefyd yn rhedeg label Recordiau Jigcal ac yn gyfrifol am waith cynhyrchu diweddar grwpiau fel Mellt, Cadno a Hyll – boi prysur!

Ond yn nghanol hyn oll mae wedi llwyddo i fynd ati i ysgrifennu a recordio ei albwm unigol cyntaf – bydd Glas allan ar Jigcal ar 29 Mehefin.

 

Traciau

Tyrd Awn i Ffwrdd
Tra Fyddaf Fyw
Drysau Mawr y Nen
Ffordd y Mynydd
Cwm Ieuenctid
Buarth John Plu
Trio Anghofio
Swyn
Hel Atgofion
Llethr a Llwyn
Cadair Ger y Tân