Glain Rhys - Atgof Prin

Glain Rhys - Atgof Prin

£9.99
Cod Eitem : rasalCD043

Rhifnod : Rasal CD043
Label: Rasal
Dyddiad Rhyddhau: 2018

Glain Rhys – y gantores gyfansoddwraig â’r llais hudolus yn cyflwyno ei halbym gyntaf ‘Atgof Prin’.

Yn wreiddiol o’r Bala ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, rhyddhaodd Glain ei chaneuon gyntaf ar gasgliad Sesiynau Stiwdio Sain ac yn dilyn llwyddiant y traciau hynny bu Glain a’r band yn cydweithio gyda’r cynhyrchydd Robin Llwyd yn Stiwdio Sain ar ei halbym newydd ‘Atgof Prin’.

Er bod canu yn rhan o’i bywyd ers cyn cof, daeth Glain i amlygrwydd gyntaf fel cantores-gyfansoddwraig ar ôl cystadlu ym Mrwydr y Bandiau Eisteddfod Genedlaethol y Fenni 2016, lle aeth ati i greu band yn arbennig ar gyfer y gystadleuaeth ac maent wedi mynd o nerth i nerth ers hynny. Roedd yn un o berfformwyr ‘Cân i Gymru’ eleni ar S4C gan berfformio’r gân ‘Ysbrydion’ gan Aled Wyn Hughes ac mae’n gorffen cwrs ‘perfformio’ dwy flynedd o hyd o dan ofal Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yng Nghaerdydd mis yma. Bu Glain yn llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd eleni hefyd gan dderbyn y drydedd wobr yn y gystadleuaeth ‘cyflwyno alaw werin unigol 19-25 oed’ a’r ail wobr yn y gystadleuaeth unawd o sioe gerdd 19 – 25 oed ac yn dilyn ei llwyddiant fe’i gwahoddwyd i fod yn un o’r 6 fydd yn cystadlu am ysgoloriaeth Bryn Terfel.

Bu Glain yn cydweithio gyda Robin Llwyd yn Stiwdio Sain yn Llandwrog ar yr albym newydd ac mae Marged Gwenllian (Y Cledrau) a Carwyn Williams (Patrobas) ynghyd ag Elidyr Glyn (Bwncath) yn cyfrannu i’r record hefyd. Wrth gyflwyno’r albym esbonia Glain; ‘Mae’r gerddoriaeth dwi’n ei gyfansoddi yn amrywio o ran genre ond tybiwn fod yna dinc gwerinol i’r caneuon yn fwy na dim. Dwi’n cael fy ysbrydoli i ysgrifennu gan fy mhrofiadau personol yn bennaf, yn ogystal â digwyddiadau sydd o fy nghwmpas i o ddydd i ddydd.’ Yn rhan o restr hirfaith Glain o ddylanwadau mae Caryl Parry Jones, Siân James a Gwenan Gibbard.

Dyddiadau perfformio Glain :
01/07 – Tafwyl, Caerdydd
05/07 – Yr Eagles, Llanuwchllyn
20 & 21/07 – Sesiwn Fawr, Dolgellau
07/08 – Caffi Maes B, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
08/08 – Tŷ Gwerin, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd
11/08 – Llwyfan y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd

 

Traciau
Ysu Cân
Haws ar Hen Aelwyd
Y Ferch yn Ninas Dinlle
Dim Man Gwyn
Marwnad yr Ehedydd
Yn Fy Mhen
Gêm o Genfigen
Rwbeth
Yr Hyn Wnes i
Eiliad Mewn Cwmni