Newid Iaith

ystafell gyfarfodAr y llawr isaf gyda mynediad i`r anabl

Mae Bys a Bawd yn cynnig ystafell gyfarfod gyfforddus a hwylus ac mae`n addas i lawer math o gyfarfod -  cwrs, cyfarfod busnes neu gyfarfod cymdeithasol. Mae wedi ei lleoli yn ganolog yn nhref hynafol Llanrwst sy`n fan cyfarfod hwylus yng Nghanol Gogledd Cymru.Mae`r mynediad yn rhwydd iddi o gefn yr adeilad gyda ramp i`r anabl a phopeth ar yr unllawr.

Mae`r seddau a byrddau yn hyblyg i`w gosod mewn gwahanol ffyrdd ar gyfer hyd at 20 o bobl, beth bynnag yr achlysur ac mae`n ystafell braf a golau. Mae byrddau gwyn hwylus yn barod yno ac "easel" "Fflipchart" hefyd.  Mae cyfleusterau ty bach addas i`r anabl nesaf at yr ystafell hon.

Mae gwasanaeth llungopio a lamineiddio ar gael yn y siop a hefyd cysylltiad band llydan trwy wi fi.

Mae cegin wedi ei gosod ar gyfer gwneud paneidiau neu luniaeth ysgafn. Gallwn ni drefnu cyflenwi os dymunir hynny. Mae hefyd ddewis da o leoedd bwyta yn agos.   

 

Mae staff Bys a Bawd yn gyfeillgar ac yn awyddus i wneud eich cyfarfod yn llwyddiant bob amser.

 

Telerau arferol: (TAW yn ychwanegol)

a£10 yr awr.

bSesiwn hir  - bore neu brynhawn - £28

cgyda`r nos £30

chDiwrnod cyfan £55.

Os am fwy o wybodaeth ynglyn â argaeledd neu i drafod telerau ymhellach cysylltwch gyda ni.