
Helo Heddiw! Calendr Magnetig Cymraeg
Croeso i Helo Heddiw! Dyma adnodd addysgol gwych i helpu plant a dysgwyr i ddysgu am ddiwrnodau, dyddiadau, misoedd, tywydd, tymheredd a thymhorau yn y Gymraeg mewn ffordd hwyliog. Mae’n addas o oedran 3+ ac nid oes unrhyw reswm pam na ddylai pob cartref yng Nghymru gael calendr o’r fath.
Mae’n fagnetig ac felly’n gallu cael ei roi ar yr oergell fel eich bod yn cofio pa ddiwrnod ydy hi, heb esgus, hyd yn oed yn ystod cyfnod clo!! Mae llinyn ar y calendr hefyd fel eich bod yn gallu ei hongian ble bynnag yr ydych chi’n dewis. Adnodd gwych ar gyfer unrhyw cartref, Ysgol, Meithrinfa, neu cartrefi gofalwyr plant (“childminder”).
Gofynnwch i’r plantos neu unrhyw ddysgwr yn y tŷ i helpu trefnu’r calendr bob dydd!! A chofiwch – mae heddiw am fod yn ddiwrnod da!!