Newid Iaith

Blodau Gwylltion - Llifo Fel Oed

Blodau Gwylltion - Llifo Fel Oed

£9.99
Cod Eitem : gcd025

Rhifnod y Cyhoeddwyr: Gwymon CD025
Label: Gwymon
Dyddiad Rhyddhau: 2018

Dyma albym gyntaf Blodau Gwylltion, sef band Manon Steffan Ros ac Elwyn Williams. Cafodd y caneuon eu recordio yn Stiwdio Iawn, Aberystwyth, dros gyfnod o sawl blwyddyn, ac mae arddull y caneuon a’r recordiadau yn agos-atoch ac yn bersonol.

‘O’n i’n awyddus i recordio’r albym mewn ffordd eitha’ lo-fi, heb or-gynhyrchu, er mwyn iddo fo deimlo fel tasa’r gwrandawr mewn gig byw. Mae hyn yn rhoi arddull bersonol i’r sain. Mae ‘na sŵn un o wylanod Aber yng nghefndir un trac, ac ar un arall, mae Greta, merch fach Elwyn, yn ochneidio- mae o’n siwtio’r caneuon yn berffaith, digwydd bod!’

Dechreuodd Manon ac Elwyn berfformio fel Blodau Gwylltion yn sgil bod yn gyd-aelodau o fand Steve Eaves. Daw enw’r band o’r gân draddodiadol, sy’n cael ei chynnwys ar Llifo Fel Oed, Ddoi Di Dei- Pwy sy’n plannu’r blodau gwylltion? Dewisiwyd yr enw am fod gan Manon berthynas glos iawn efo’r gân- arferai ei mam ei chanu iddi pan roedd hi’n ferch fach.

Mae nifer o themâu i’r albym, a daw’r teitl, Llifo Fel Oed, o un o’r rhai amlycaf. “Mae ‘na lawer o’r caneuon yn ymwneud efo treigl amser, a sut ‘da ni’n ran o ryw batrwm neu gylch,’ esbonia Manon. ‘Ac mae’r teitl yn dod o gân ola’r albym, Plant Bach, sy’n sôn am wylio’r plant yn tyfu. Mae dŵr yn thema arall ar yr albym, felly roedd hi’n gwneud synnwyr cael y gair llifo yna.’

Ceir amrywiaeth mewn arddull a phwnc ar yr albym, gan gynnwys un gân er cof am y diweddar Meredydd Evans. ‘Ro’n i wedi cwarfod Merêd a Phyllis unwaith, yn eu cartref yng Nghwm Ystwyth,’ meddai Manon. ‘Ac roedd o’n enedigol o fy ardal i, Bro Dysynni. Pan fuodd o farw, ro’n i’n teimlo ryw hiraeth cynhenid, bron, ein bod ni wedi colli rhywbeth mor ofnadwy o unigryw, ond ei fod o wedi gadael ffasiwn etifeddiaeth i ni i gyd.’

Mae llawer o’r caneuon wedi eu dylanwadu gan ddŵr- ceir gyfeiriadau at Aberdyfi, Llyn Cwm Dulyn yn Nantlle ac afon Dyfi. Mae Sarah, cân am un o longau a adeiladwyd yn Aberdyfi ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf, yn cyd-fynd gyda phennod o nofel ddiweddaraf Manon, Llanw.

Bydd Blodau Gwylltion yn cefnogi Lleuwen ar ei thaith byr o Gymru mis Mawrth – Acapella, Caerdydd 2/03 ac Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth 04/03. Byddant hefyd yn teithio siopau Cymraeg i berfformio ambell i gân o’r albym – y daith yn cychwyn bore Sadwrn, Mawrth 17eg yn Siop y Pethe, Aberystwyth am 10yb, ac yna Siop Awen Meirion, Y Bala erbyn 1yp cyn gorffen yn Palas Print, Caernarfon am 4yp.

 

Traciau
  1. Marchlyn
  2. Fy Mhader I
  3. Pan O'n I'n Fach
  4. Sarah
  5. Ddoi Di Dei?
  6. Dwylo Iesu Grist
  7. Gwell i Mi Ddeud Nos Da
  8. Pan Ei Di
  9. Cân Merêd
  10. Llyn Cwm Dulyn
  11. Plant Bach