
PRIØN - Bur Hoff Bau
Rhifnod y cyhoeddwr : GM005
Label : Gildas music
Dyddiad Rhyddhau : 2020
Albwm stiwdio lawn gyntaf PRIØN, Bur Hoff Bau. Yn dilyn llwyddiant eu senglau Bur Hoff Bau, Bwthyn a Poced Cot mae’r casglaid o ganeuon llawn emosiwn yma yn dangos sain hyfryd y ddeuawd o Ddyffryn Clwyd ar ei orau.
Mae Arwel Lloyd, sy’n wreiddiol o Lansannan a bellach yn byw yn Yr Hendy, yn adnabyddus fel y cyfansoddwr a’r canwr tu ôl gerddoriaeth Gildas, sydd wedi derbyn clodydd nifer o adolygwyr gan gynnwys rhestr fel Albwm y Flwyddyn 2014. Mae hefyd yn adnabyddus fel gitarydd amryddawn a chyfansoddwr gyda’r Al Lewis Band ac Elin Fflur.
Celyn Llwyd Cartwright yw hanner arall y ddeuawd gyfoethog. Yn wreiddiol o Ddinbych, a bellach yn astudio gradd meistr yng Nghaerdydd, mae hithau yn wyneb a llais adnabyddus i’r genedl. Mae wedi perfformio ar lwyfannau ledled Cymru a thu hwnt gan gynnwys rownd derfynnol Ysgoloriaeth Bryn Terfel yn 2018 a chymeryd rhan fel un o’r prif gymeriadau, ‘Wini’, yn y Sioe Gerdd arobryn Te yn y Grug, Eisteddfod Llanrwst 2019.
Mae’r ddau lais cynnes yma yn uno, ynghyd â Matt Ingram a CJ Jones ar yr offerynnau taro, Sion Llwyd ar y bas, Gareth Thorrington ar y piano a sain torcalonus y Mavron String Quartet dan drefniaint yr amryddawn Geraint Cynan i gyflwyno casgliad bendigedig o ganeuon newydd wedi eu cyfansoddi gan y ddau.
Mei Gwynedd ac Arwel Lloyd sydd wedi cynhyrchu’r cyfan a’r cymysgu wedi ei gwblhau gan Llion Robertson. Eurig Roberts sy’n gyfrifol am y gwaith celf gyda chyfraniadau gan Buddug a Celf Calon.
Traciau
- Bur Hoff Bau
- Bwthyn
- Mari a Ianto
- Macsen Wyn
- Mr Robinson
- Poced Cot
- Walia
- Papur Lliw
- Angel
- Dorelia.