Newid Iaith

Bwncath - II

Bwncath - II

£9.99
Cod Eitem : rasalcd044

Rhifnod y cyhoeddwr : Rasal CD044

Label : Rasal

Dyddiad Rhyddhau : 2020

 

Ers rhyddhau’r albwm gyntaf nôl yn 2017, mae Bwncath wedi dod yn un o’r bandiau prysuraf yng Nghymru.

Yn 2019, cafwyd ymateb gwych i’r ddwy sengl sef ‘Clywed Dy Lais’, a’r gân fuddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru, ‘Fel Hyn ‘Da Ni Fod’, a’i pherfformio fel band yn yr Ŵyl Ban Geltaidd. Yn ogystal â hyn, rhyddhawyd fideo arbennig (wedi’i animeiddio gan Lleucu Non) i’r gân ‘Dos Yn Dy Flaen’ i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2020, a chyrhaeddodd y dair cân y Clwb Can Mil o ffrydiau ar Spotify.

Wedi poblogrwydd a llwyddiant eu halbym cyntaf, mae’n bleser cyhoeddi bod albym newydd yn cael ei ryddhau. Recordiwyd yr albwm ‘II’ yn Stiwdio Sain gan aelodau Bwncath sef Elidyr Glyn (prif lais a gitâr acwstig), Robin Llwyd (gitâr drydan a llais cefndir), Alun Williams (gitâr fas a llais cefndir) a Twm Ellis (drymiau a llais cefndir).

Bellach, mae’r 4 aelod yn gigio’n rheolaidd gyda’i gilydd ers dros flwyddyn. Meddai’r band: “Mae hi wedi bod yn braf iawn recordio’r albwm fel pedwarawd am y tro cyntaf. Mae’n sicr yn teimlo fel cyfanwaith rhwng y pedwar ohonom ni ac yn driw i’n perfformiadau byw.”

“Rydym yn edrych ymlaen i bawb gael clywed y caneuon newydd, ac yn arbennig y gwesteion gwych sydd wedi cyfoethogi rhai o’r traciau.”

O dan yr amgylchiadau mae gig lansio’r albwm yng Nghlwb Rygbi Caernarfon ar y 27ain o Fawrth fel rhan o Nosweithiau Pedwar a Chwech, gyda Tant yn cefnogi wedi ei ohirio. Ond mi fydd y band yn bwriadu lansio’r albwm yn fyw ar eu tudalen Facebook am 19:30 yr un noson – cofiwch wylio! Gobeithio teithio’r albwm yn ystod yr Haf, fel rhan o daith sydd wedi’i chefnogi gan gronfa nawdd Eos, pan fydd y sefyllfa yn gwella.

 

Traciau

1 Gwiberod

2 Clywed dy Lais

3 Dos yn dy Flaen

4 Hollti'r Maen

5 Fel Hyn 'da ni Fod

6 Tonnau

7 Haws i'w Ddweud

8 Addewidion

9 Aberdaron

10 Sgenai'm Mynadd