Caneuon Gareth Glyn - Amrywiol

Caneuon Gareth Glyn - Amrywiol

£12.98
Cod Eitem : scd2768
Rhifnod y Cyhoeddwyr : SCD2768
Label: Sain
Dyddiad Rhyddhau: 2017
I’r rhai sy’n hoff o osod rhyw fath o label ar gyfansoddwr mae dynodi un ar Gareth Glyn yn gryn sialens os nad yn dasg gwbl amhosib. Dros gyfnod o bron i hanner can mlynedd crëodd Gareth ystod enfawr o gerddoriaeth, o’r ysgafn, poblogaidd ei arddull, i’r heriol, swmpus ar gynfas eang. Nid yw’n ormodiaith chwaith i nodi ei fod wedi creu clasuron Cymreig fydd yn cael eu perfformio am oesoedd i ddod – yn eu mysg Llanrwst, Carol y Seren a Iesu Yw.

Ar y ddisg hon fe gawn yr hyn sy’n cyfateb i daith gerddorol y cyfansoddwr, o ddyddiau coleg i’r presennol – enghreifftiau o’i hoffter o drin geiriau a’u gwisgo’n gelfydd mewn alawon a harmonïau. ’Does dim amheuaeth nad yw dylanwad ei dad, y diweddar Brifardd T. Glynne Davies, i’w synhwyro’n gryf yn ei ymdeimlad greddfol o eiriau a’u sain, hynny’n creu perthynas sydd bob amser yn bleser pur i gantorion. A dyna mewn gwirionedd yw cryfder Gareth: gallu cyfansoddi cerddoriaeth sy’n brofiad synhwyrus ac sy’n cyfoethogi dychymyg y gwrandäwr. Er mor gelfydd y strwythurau a’r adeiladwaith yn ei gerddoriaeth, ac er mor gywrain y driniaeth o gymalau a motiffau, dydi’r dechneg byth yn gorlethu’r prif gynnwys a’i fwriad i greu mwynhad.

Cwestiwn naturiol i’w ofyn ydi: pa mor Gymreig yw arddull gerddorol Gareth? Yn naturiol mae’n cymryd mwy na theitl a chynnwys geiriol Cymraeg i gerddoriaeth fod yn ‘genedlaethol’ ei sain, ond yn fy marn i mae ei breswyliad ar Ynys Môn wedi dyfnhau ei Gymreigrwydd, gan ddylanwadu’n enfawr ar ei ‘lais cerddorol’. Heb amheuaeth mae sŵn arfordir yr ynys yn ei gerddoriaeth, a lleoedd cyfrin fel Llanddwyn, Malltraeth a Phenmon wedi ymsuddo i’w gymeriad a’i hanfod. Prawf pellach yw’r hyn a geir yn un o’i weithiau estynedig pwysicaf yn y cyswllt hwn, sef Dirion Dir (y clywir dwy ran ohono ar y ddisg hon – Llys Aberffraw a Brodyr Maeth Hywel), lle mae darluniau o Fôn ar hyd yr oesoedd yn dod yn fyw drwy ddychymyg a phortreadau cywrain y cyfansoddwr.

Eto i gyd, nid ynyswr yw Gareth, ond yn hytrach trysor cenedlaethol. Yn sicr mae’n un o gyfansoddwyr pwysicaf Cymru ein dyddiau ni.

Traciau
Gwynt yr Haf - Rhys Meirion, Elgan Llŷr Thomas, Rhodri Prys Jones
Araf y Tipia'r Cloc - Rhodri Prys Jones
Llys Aberffraw - Elgan Llŷr Thomas
Brodyr Maeth Hywel - Elgan Llŷr Thomas
I Wefr Dadeni - Y Pair - Rhys Meirion
I Wefr Dadeni - Golgotha - Rhys Meirion
I Wefr Dadeni - Eirlysiau - Rhys Meirion
I Wefr Dadeni - Y Gwanwyn - Rhys Meirion
I Wefr Dadeni - Sialens - Rhys Meirion
Carol yr Alarch - Elgan Llŷr Thomas
Fy Ngeni Dan Felltith Mam - Rhodri Prys Jones
Llanrwst - Rhys Meirion
Ionawr - Rhodri Prys Jones
Eirlysiau - Rhodri Prys Jones
Crafangau - Elgan Llŷr Thomas
Carol y Seren - Rhys Meirion, Elgan Llŷr Thomas, Rhodri Prys Jones