Rhifnod y Cyhoeddwyr : scd2783
Label: Sain
Dyddiad Rhyddhau: 2018
Sefydlwyd Côr Dre yn 2007 gan griw o bobl ifanc yng Nghaernarfon oedd a’u bryd ar ganu a chymdeithasu.
Cynhaliwyd yr ymarferion cyntaf yng Nghapel Salem, Caernarfon gyda thua phymtheg aelod a thros y chwe blynedd ganlynol, denwyd nifer o aelodau newydd.
Erbyn gwanwyn 2013, roedd y côr yn chwilio am arweinydd newydd ac fe ymunodd Siân Wheway ym mis Ebrill.
Yn ystod y cyfnod dilynol, denwyd mwy o aelodau a chafwyd sawl llwyddiant, gan gynnwys gwobrau corawl mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol, Côr yr Ŵyl Ban Geltaidd 2015 a chyrraedd rownd gynderfynol Côr Cymru 2017. Mae’r côr hefyd wedi ymddangos ar S4C ac wedi recordio lleisiau cefndir i gantorion adnabyddus fel John Owen- Jones a Dafydd Iwan. Erbyn heddiw, mae dros hanner cant o aelodau, yn dod o’r dref a’r ardal o amgylch Caernarfon.
Wrth i’r côr gyrraedd carreg filltir y pen-blwydd yn 10 oed, priodol yw dathlu hynny drwy ryddhau CD o ganeuon amrywiol eu naws, o ganu gwerin i ganeuon newydd sbon cyffrous, yn ogystal â hen ffefrynnau a chyfraniadau unawdol gan hen ffrindiau.
A does dim rhaid dweud, i gwblhau’r dathlu, bydd hymdingar o barti yng Nghaernarfon!