
Osian Ellis - Crefft Unigryw
Rhifnod y Cyhoeddwyr: SCD2785
Label: Sain
Dyddiad Rhyddhau: 2018
Caiff Osian Ellis, y telynor o fri rhyngwladol, ei gydnabod fel un o gerddorion amlycaf yr 20fed ganrif. Treuliodd dros 70 mlynedd yn perfformio ar hyd a lled y byd a chafodd yrfa lewyrchus, amrywiol a hynod o ddylanwadol. Wedi ei eni yn Ffynnongroyw a’i fagu yn Hen Golwyn, Abergele ac yna yn Ninbych, dechreuodd chwarae’r delyn yn ifanc, gan gael gwersi gan Alwena Roberts, ‘Telynores Iâl’. Yn ddwy ar bymtheg oed enillodd Ysgoloriaeth Joseph Parry i astudio yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain, y coleg a fyddai, maes o law, yn ei benodi’n Athro’r Delyn yno, swydd a gyflawnodd am 30 mlynedd. Yn 1960 cafodd ei benodi’n brif delynor Cerddorfa Symffoni Llundain. Treuliodd dros 30 mlynedd yn perfformio gyda’r gerddorfa, gan gyfuno’r gwaith â gyrfa ddisglair fel unawdydd ac fel telynor siambr gyda’r Melos Ensemble. Creodd nifer o gyfansoddwyr amlycaf y cyfnod, gan gynnwys William Mathias ac Alun Hoddinott, weithiau ar ei gyfer a bu’n cydweithio llawer hefyd â Benjamin Britten. Ar gyfer Osian y cyfansoddodd Britten y rhannau i’r delyn yn nifer o’i weithiau enwocaf, ac yn 1969, cyflwynodd ei waith nodedig i’r delyn, Suite for Harp, i Osian. Yn ei gyfansoddiadau ei hun, mae Osian yn tynnu’n aml ar ei wreiddiau Cymreig, gan ddefnyddio dylanwadau o’i gefndir ym maes cerdd dant a chanu gwerin i greu cyfansoddiadau newydd a blaengar.
Traciau
- Introduction et Allegro
- Trymder
- Hela'r Sgyfarnog / Fenyw Fwyn
- Concerto in F Major, Op. 4, No 5: Larghetto
- Concerto in F Major, Op. 4, No 5: Allegro
- Concerto in F Major, Op. 4, No 5: Alla Siciliana
- Concerto in F Major, Op. 4, No 5: Presto
- Deck the Halls
- Hiraeth am Batagonia
- Interlude
- Cân yr Ychen
- Lisa Lân
- Y Sipsi
- Improvisations for Harp, Op. 10: Allegro Moderato
- Improvisations for Harp, Op. 10: Lento - Sonore
- Improvisations for Harp, Op. 10: Allegro non Troppo
- Clymau Cytgerdd / Diversions: Chwarae Mig / Chasing
- Clymau Cytgerdd / Diversions: Canu Penillion / Descanting
- Clymau Cytgerdd / Diversions: Hel Straeon / Gossiping
- Baled Boddi Cwch Enlli yn 1822
- Leusa Lân
- And Death Shall Have No Dominion