Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan
£4.99
Cod Eitem :
Anturiaethau_Syr_Wynff_a_Plwmsan
Hwn yw’r ail DVD yn dilyn hynt a helynt y ddau gymeriad mwyaf gwallgo fu erioed ar S4C. Er mai ar gyfer plant y darlledwyd y rhaglenni hyn yn wreiddiol rhwng 1980 ac 1989, mae tystiolaeth go bendant fod Syr Wynff ap Concord a Plwmsan bach yn denu cynulleidfa o ddilynwyr brwd ymysg y genhedlaeth hŷn hefyd! Yn ôl y sôn, mae chwerthin yn gwneud lles i ni gyd beth bynnag ein hoedran, felly mwynhewch lond bol o chwerthin iach yng nghwmni dau o gymeriadau mwyaf slepjanllyd Cymru.
Penodau
*Y Fferm
*Y Beipan betrol
*Gwers byd natur
*Helynt o gwmpas y siop
*Cwmni adeiladu Syr Wynff
*Prif warden y pentref
Hyd y ddisg tua 150 munud