Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan

Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan

£4.99
Cod Eitem : Anturiaethau_Syr_Wynff_a_Plwmsan

Hwn yw’r ail DVD yn dilyn hynt a helynt y ddau gymeriad mwyaf gwallgo fu erioed ar S4C. Er mai ar gyfer plant y darlledwyd y rhaglenni hyn yn wreiddiol rhwng 1980 ac 1989, mae tystiolaeth go bendant fod Syr Wynff ap Concord a Plwmsan bach yn denu cynulleidfa o ddilynwyr brwd ymysg y genhedlaeth hŷn hefyd! Yn ôl y sôn, mae chwerthin yn gwneud lles i ni gyd beth bynnag ein hoedran, felly mwynhewch lond bol o chwerthin iach yng nghwmni dau o gymeriadau mwyaf slepjanllyd Cymru.

Penodau

*Y Fferm

*Y Beipan betrol

*Gwers byd natur

*Helynt o gwmpas y siop

*Cwmni adeiladu Syr Wynff

*Prif warden y pentref

Hyd y ddisg tua 150 munud