Mwy o anturiaethau hoff dractor plant Cymru a'i ffrindiau yn Nhyddyn Difyr! TARW Mae Tecwyn a Twm yn helpu Moi i godi arwydd i rybuddio pobl rhag mynd i gae Tudwal y Tarw. Ond a fydd Linc a Lonc, y gwersyllwyr gwirion, yn ei weld mewn pryd? YSGOL Un diwrnod mae Tecwyn yn mynd i'r ysgol gyda Cadi, ac mae e wrth ei fodd yn cyfri ac yn darllen. Ond sut dysgodd e wneud hyn? Rhaid adrodd stori i gael yr ateb! SIOE BEIRIANNAU Pan fo Nanw a Tecwyn yn mynd i sioe hen beiriannau, mae Tecwyn wrth ei fodd yn siarad â'r peiriannau eraill, ond pam mae angen galw Tecwyn i'r Cylch Mawr adeg y gwobrwyo? TECWYN YN CAEL CARIAD Mae angen peiriant torri gwair newydd, felly bant â Nanw a Tecwyn i chwilio am un - doedd Tecwyn ddim yn chwilio am gariad, ond pan welodd Ilid... DEUNYDD YCHWANEGOL *4 JIGSO 9 DARN
Hyd - Tua 55 munud Iaith