Golygydd(ion)/Editor(s) : Mererid Hopwood
Detholiad o gerddi Gwilym Ceri Jones (1893-1963), sy'n cynnwys tinc hiraethus y telynegwr a brath y sylwebydd cymdeithasol. Yn enedigol o Rydlewis, Ceredigion, treuliodd ei yrfa yn weinidog yn Nhreorci, Penrhyndeudraeth, Llanwrtyd, Port Talbot a Chlydach ar Dawe. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955, a cheir detholiad pellach o'i waith yn Diliau'r Dolydd.
A selection of the work of Gwilym Ceri Jones (1893-1963), comprising poems reflecting the emotive longing of the tender lyricist together with the sting of the social commentator.