Sut i brynu
Gallwch archebu drwy ein gwefan www.bysabawd.cymru
Ar y ffôn : 01492 641329
Drwy e-bost : Mae'r cyfeiriad e-bost hwn wedi'i warchod rhag robotiaid sbam. Rhaid i chi alluogi JavaScript i'w weld.
Neu drwy'r post : Bys a Bawd, 29 Stryd Ddinbych, Llanrwst, CONWY LL26 0LL
Os yn archebu drwy'r post gwnewch eich sieciau yn daladwy i Bys a Bawd neu ffoniwch i dalu gyda cerdyn.
Prynu Ar-Lein
Chwiliwch am eich nwyddau a chliciwch ar 'Rhoi yn y Fasged'. Unwaith bydd yr eitem yn y fasged gallwch glicio yn syth ar 'Desg talu' neu barhau i siopa. Pan fyddwch yn barod i archebu cliciwch ar 'Desg talu' wrth y nwydd neu 'Eich Basged' yn y ddewislen ar frig y dudalen. Mae ein tudalennau prynu yn defnyddio dull diogel felly bydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei anfon yn ddiogel. Bydd unrhyw wybodaeth ariannol yn cael ei roi drwy Paypal (gweler isod) ac nid ar ein gwefan.
Bydd clicio ar y botwm archebu yn golygu eich bod yn cytuno i brynu y nwyddau am y pris ay'n cael ei ddangos.
Os bydd y nwyddau mewn stoc neu ar gael o'n cyflenwyr llyfrau ar fyr rybudd bydd y nwyddau yn cael eu hanfon o fewn 2-3 diwrnod.
Os nad ydy'r nwyddau mewn stoc byddwn yn anfon e-bost atoch yn rhoi manylion yr eitemau sydd ddim ar gael a bydd gweddill eich archeb yn cael ei hanfon fel arfer.
Os ydych wedi gwneud camgymeriad gyda'ch archeb ac yn methu ei gywiro Cysylltu a ni.
Talu
Mae pob pris yn cynnwys TAW os ydi TAW yn daladwy. Does dim TAW ar lyfrau.
Rydym yn defnyddio Paypal i dderbyn taliadau unai o gyfri Paypal neu yn uniongyrchol gyda eich cerdyn debyd neu gredyd. Nid oes angen cyfri Paypal arnoch i dalu ond gallwch ddefnyddio un os oes gennych chi un. Ymddiheurwn nad yw tudalen dalu Paypal ar gael yn y Gymraeg.
Mae Paypal yn amgryptio eich gwybodaeth wrth iddo deithio o'ch cyfrifiadur neu ddyfais i'w gweinydd.
Cludiant
Rydym yn defnyddio y post brenhinol ar gyfer anfon nwyddau. Mae eu prisiau ar gael ar eu gwefan yn https://www.postoffice.co.uk/price-finder. Mae ein cludiant yn seiliedig ar bwysau a maint pob eitem wedi ei bacio. Rydym yn ddibynnol ar ein cyflenwyr am y wybodaeth yma ar gyfer llyfrau felly weithiau byddwn yn defnyddio amcangyfrif. Yn yr achosion prin pan fydd yr amcangyfrif yn anghywir a byddwn wedi codi gormod o gludiant arnoch yna byddwn yn eich ad-dalu.
Prynu a chasglu
Gallwch brynu ar-lein a chasglu eich nwyddau yn y siop. Byddwn yn anfon e-bost atoch pan fydd y nwyddau yn barod. Bydd llyfrau Cymraeg a Chymreig na sydd mewn stoc fel arfer ar gael o fewn 2 ddiwrnod gwaith.